Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 16 Medi 2019
Amser:
13.30 -
15.16
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5623
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Gareth Bennett AC Vikki Howells AC Rhianon Passmore AC Jenny Rathbone AC |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton - Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock Nick Selwyn |
Staff y Pwyllgor: |
Adrian Crompton Matthew Mortlock Nick Selwyn Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Adam Price AC.
2.1 Nodwyd y papurau yn amodol ar y camau canlynol:
· Cytunodd y Pwyllgor i ohirio'r diweddariad nesaf a drefnwyd ar Wasanaethau Radioleg tan ddiwedd 2019;
· Cytunodd y Pwyllgor i ohirio'r diweddariad terfynol ar Ddiogelwch Cymunedol yng Nghymru tan dymor y gwanwyn 2020, ar ôl i'r rhaglen ddod i ben ym mis Mawrth 2020;
· Gofynnodd y Pwyllgor eu bod yn gofyn am eglurhad ar rôl y Cyfarwyddwr Trosiant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; a
· Bydd y Pwyllgor yn ymateb i'r llythyr gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad pellach ar nifer o faterion. Ar ôl ei dderbyn, bydd y Pwyllgor yn paratoi ei adroddiad drafft.
5.1 Fe wnaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru briffio'r Aelodau ar yr adroddiad hwn.
5.2 Cytunodd yr Aelodau i gynnal ymchwiliad i effeithiolrwydd awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru yn y flwyddyn newydd. Nododd y Pwyllgor yr adroddiadau sydd ar ddod ar sut mae awdurdodau lleol yn gweithredu eu cyfrifoldebau newydd o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (adroddiad wedi'i gyhoeddi fis Medi 2019); a’r dyletswyddau newydd a osodwyd arnynt a’u partneriaid gan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (disgwylir i’r adroddiad gael ei gyhoeddi fis Tachwedd 2019), a bydd yn rhoi ystyriaeth i’r adroddiadau fel rhan o ymchwiliad penodol yn y flwyddyn newydd.
6.1 Fe wnaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru briffio'r Aelodau ar yr adroddiad hwn.
6.2 Cytunodd yr aelodau i barhau i gadw golwg ar y mater hwn a dychwelyd ato yn gynnar yn y flwyddyn newydd.